> sefydlwyr y cwmni
Sue Balsom
Rheolwraig Gyfarwyddwraig
Cafodd FBA ei sefydlu gan Sue Balsom yn wreiddiol fel cwmni Cysylltiadau Cyhoeddus yn 1989. Cafwyd twf parhaus dros y blynyddoedd wrth i fusnes dylunio a brandio arobryn FBA ddatblygu, ynghyd â changen gyhoeddi ar wahân.
Cyn creu FBA, roedd Sue wedi bod yn athrawes, ymgynghorydd gyrfaoedd prifysgol, newyddiadurwraig ar eu liwt ei hun, yn ogystal â threulio cyfnod yn Adran Materion Cyhoeddus Shell UK. Mae wedi ysgrifennu'n gyson i The Times a'r Western Mail a phapurau lleol yng Nghymru yn ogystal ag i gyhoeddiadau eraill fel The Economist Intelligence Reports a chylchgrawn Country Living.
Fel Rheolwraig Gyfarwyddwraig FBA, Sue Balsom yw prif Gyfarwyddwraig y cyfrifon Cysylltiadau Cyhoeddus a Materion Cyhoeddus. Ymhlith ei diddordebau pennaf mae ynni gwyrdd, y diwydiannau bwyd a diod, datblygu tir ac amaethyddiaeth.
Mae Sue wedi gwneud cyfraniad nodedig i wasanaeth cyhoeddus. Ar hyn o bryd hi yw'r Aelod i Gymru ar Fwrdd Cynnwys Ofcom, y rheoleiddiwr telathrebu a darlledu yn y DG. Cyn ymuno ag Ofcom, bu'n gwasanaethu am bum mlynedd fel Is-gadeirydd Cyngor Darlledu'r BBC ar gyfer Cymru. Yn ddiweddar, daeth yn Gadeirydd Ymddiriedolaeth y Tywysog - Cymru. Mae ei phenodiadau cyhoeddus eraill yn cynnwys bod yn gyn-Aelod o Fwrdd Awdurdod Datblygu Cymru ac o fwrdd rhanbarthol TV AM. Mae'n un o Ymddiriedolwyr y Ganolfan Dechnoleg Amgen. Yn 2004 fe'i dewiswyd yn ‘Gymraes y Flwyddyn’ gan y Western Mail.
