> sefydlwyr y cwmni

Denis Balsom

Denis Balsom BSc Econ, PhD
Cadeirydd ac Ysgrifennydd y Cwmni

Mae Dr Denis Balsom yn gyn-ddarlithydd yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Ei ddiddordeb pennaf yw gwleidyddiaeth Cymru a bydd yn darlledu a sylwebu'n gyson ar faterion Cymreig.

Mae Dr Balsom yn ymgynghorydd rhaglenni i ITV Cymru ers dros 15 mlynedd. Mae'n Gymrawd Ymchwil er Anrhydedd yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd, ac mae'n awdurdod ar ymchwil arolygon cymdeithasol a gwleidyddol.

Denis a greodd The Wales Yearbook, cyhoeddiad blynyddol sydd bellach yn ei 17eg flwyddyn. Mae'r llyfr hwn, sy'n cael ei alw'n “feibl y newyddiadurwyr”, yn arweiniad awdurdodol i faterion cyhoeddus yng Nghymru ac mae'n cynnwys dros 5000 o enwau cyswllt - yn eu plith tua 1700 o swyddogion etholedig o bob maes ym mywyd cyhoeddus Cymru. Mae'r gronfa ddata unigryw (ynghyd â deunydd cysylltiol nas cyhoeddir) yn golygu bod gan gleientiaid FBA fynediad i adnodd marchnata a chyfathrebu pwerus. Mae llwyddiant The Wales Yearbook yn gonglfaen hefyd i rwydwaith llwyddiannus FBA mewn perthynas â'r wasg a'r cyfryngau.

Mae'r gwaith Materion Cyhoeddus cysylltiedig yn cynnwys cadw llygad barcud ar faterion cyhoeddus yng Nghymru ac yn trosglwyddo gwybodaeth gyfrinachol ysgrifenedig ac anffurfiol i gleientiaid - naill ai'n rheolaidd neu fel rhan o brosiect penodol.

Fel rhan o'i waith gwirfoddol, mae Denis yn un o Ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Elusennol Gwendoline a Margaret Davies, yn un o Gyfarwyddwyr Gwasg Gregynog ac yn un o Gyfarwyddwyr y Sefydliad Materion Cymreig.