> beth ydym yn ei wneud

Rydym yn un o fusnesau mwyaf creadigol Cymru sy'n cynnig Cysylltiadau Cyhoeddus, Materion Corfforaethol, Brandio, Dylunio a Chyfryngau Digidol. Rydym hefyd yn cyhoeddi ‘The Wales Yearbook’, sef arweiniad blynyddol 700-tudalen i faterion cyhoeddus.

Mae FBA yn fusnes pobl a'n pobl ni yw ein caffaeliad mwyaf. Maen nhw'n dod o gefndiroedd amrywiol a gwahanol sectorau o'r diwydiant. Felly, maen nhw'n dod â phrofiadau cyfoethog ac amrywiol o asiantaethau brandio byd-eang, newyddiaduriaeth genedlaethol, darlledu, y byd academaidd, ymgynghori gwleidyddol, Cysylltiadau Cyhoeddus yn y DG ac yn rhyngwladol, ynni gwyrdd, rheoli tir, marchnata bwyd - a'r llwyfan hyd yn oed!

Yr hyn rydym yn ei gynnig yw ein doniau creadigol, sgiliau, profiad a rhwydweithiau ynghyd â'n gallu i gael canlyniadau trawiadol i'n cleientiaid.

Rydym yn cynnig dulliau strategol a datrysiadau pwrpasol o'n swyddfeydd yng Nghaerdydd ac Aberystwyth.

Rydym yn ddwyieithog, yng Nghymru, ac ar gyfer Cymru. Rydym yn falch o'n cleientiaid ac maen nhw'n mwynhau gweithio gyda ni!