> materion cyhoeddus

Rydym yn cynnig gwasanaeth ymgynghorol llawn ar gyfer cyfathrebu strategol a materion cyhoeddus i gwmnïau a sefydliadau sy'n gweithredu o Gymru neu sydd â buddiannau yng Nghymru. Oddi mewn i Gymru, rydym yn ddiguro o ran ein gwybodaeth a'n hamgyffred o ddatganoli, Cynulliad Cymru a llywodraeth leol yn y 22 awdurdod lleol yng Nghymru.

Rydym yn deall gwleidyddiaeth, polisïau, rheoliadau a chynllunio yng Nghymru - a'r cyfryngau yng Nghymru a'u perthynas â gweddill y DG, San Steffan a Brwsel. Fe wyddom pwy yw pwy oherwydd rydym yn ymchwilio a chyhoeddi'r arweiniad 700-tudalen blynyddol i faterion cyhoeddus The Wales Yearbook (yn ei 17eg flwyddyn erbyn hyn) - cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Hefyd, mae FBA yn gyfrifol am ginio gwobrwyo blynyddol Gwleidydd y Flwyddyn Wales Yearbook ar y cyd ag ITV1 Cymru. Cliciwch yma, os gwelwch yn dda, i gael manylion am ddigwyddiad 2006.

Rydym yn darparu rhaglenni ymchwil a chyfathrebu strategol, ynghyd â rheoli cysylltau a digwyddiadau gwleidyddol allweddol.

Rydym yn helpu cwmnïau a sefydliadau moesegol i drosglwyddo eu negesau a'u polisïau yn effeithiol.

Yn ddi-os, gall ein deallusrwydd, profiad a chysylltau helpu i hybu'ch sefydliad - cysylltwch â ni yma i gael gwybod sut!