> Cysylltiadau Cyhoeddus a chyfathrebu corfforaethol

Rydym yn cynnig gwasanaeth Cysylltiadau Cyhoeddus creadigol ac amlddisgyblaethol i frandiau, cwmnïau a sefydliadau er mwyn gwella ymddiriedaeth rhanddeiliaid a chreu mwy o elw.

Mae ein gwaith yn cynnwys ymgyrchoedd wedi'u hanelu at ddefnyddwyr a masnach, cysylltiadau corfforaethol, a rheoli argyfwng a chynnal enw da. Rydym yn gweithio'n agos â'n cleientiaid ar raglenni cyfathrebu sy'n drawiadol, yn werth yr arian ac yn anelu at amcanion busnes penodol.

Mae ein holl waith yn cael ei gynllunio a'i gyllido'n ofalus. Byddwn yn cysylltu â chleientiaid ac yn rheoli cyfrifon ar lefel uchel, gan roi pwyslais mawr ar atebolrwydd, adrodd a gwerthuso.

Ymhlith ein gweithgareddau Cysylltiadau Cyhoeddus mae: