Newyddion Cynhadledd Genedlaethol Gwerthiant Bwyd Uniongyrchol Fforch-i-Fforc

Cynhadledd Genedlaethol Gwerthiant Bwyd Uniongyrchol Fforch-i-Fforc

Ym mis Tachwedd 2010 trefnodd a chynhaliodd FBA y Gynhadledd Genedlaethol Gwerthiant Bwyd Uniongyrchol gyntaf erioed yng Nghymru, yn rhan o ymgyrch ehangach Fforch-i-Fforc. Mae ymgyrch Fforch-i-Fforc, sy’n cael ei rheoli a’i rhedeg gan FBA ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru ac yn cael ei hariannu trwy’r Cynllun Datblygu Gwledig yn ymgyrch wybodaeth a chodi ymwybyddiaeth ar gyfer y defnyddiwr, yn ogystal â’r sector gwerthiant bwyd uniongyrchol ehangach, am gyfleoedd a manteision prynu’n uniongyrchol. Er bod y rhan fwyaf o waith ymgyrch Fforch-i-Fforc yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth defnyddwyr, mae gan y prosiect gyfrifoldeb hefyd i geisio gwella medrau cynhyrchwyr bwyd yng Nghymru. Er mwyn gwneud hynny trefnodd a rheolodd FBA gynhadledd genedlaethol i gynhyrchwyr a budd-ddeiliaid eraill sy’n gysylltiedig â’r sector. Cafodd pob agwedd ar y gynhadledd eu rheoli gan FBA, o ddod o hyd i leoliad a’i addurno, targedu a threfnu siaradwyr gwadd, datblygu agenda’r diwrnod, trefnu gwahoddedigion, sylw cysylltiadau cyhoeddus cyn ac wedi’r digwyddiad, derbyniad a threfnu cynrychiolwyr a chynnal y gynhadledd. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr; cafodd gryn sylw yn y cyfryngau ac roedd yn ddefnyddiol iawn i’r 100 a mwy o gynrychiolwyr a ddaeth ynghyd. Trefnodd FBA hefyd fod y Gynhadledd Genedlaethol Gwerthiant Bwyd Uniongyrchol yn cael ei ffilmio. Er mwyn gwylio darnau o’r gynhadledd ewch i sianel deledu Fforch-i-Fforc yn: http://vimeo.com/channels/149183