> gwobrau CC 2007
Mae FBA wedi ennill lle ar y rhestr fer ar gyfer dwy wobr Pride gan y Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus. Wedi eu dewis o blith 1456 o geisiadau mae FBA wedi dod i'r brig yng nghategorïau Cysylltiadau Cymunedol a Busnes a Masnach.
Dywedodd Colin Farrington, Cyfarwyddwr Cyffredinol CIPR a Chadeirydd y Beirniaid: “Mae cyrraedd y rhestr fer yn llwyddiant arbennig gan fod safon y ceisiadau yn cynyddu'n flynyddol a'r gystadleuaeth yn un gref. Mae'r cyrraedd y rhestr fer yn ddangosydd o'r gwaith CC sy'n cael ei ddatblygu tu hwnt i Lundain ac ar draws sectorau. Dylai'r ymgeiswyr fod yn falch o'u cyfraniad nhw a'u proffesiwn amhrisiadwy i fusnes ac i gymdeithas.”
Dyma'r eildro i FBA ymgeisio am y gwobrau, yn 2006 bu FBA yn llwyddiannus wrth ennill tair gwobr arian am yr Ymgyrch Cwsmer orau, Materion Rheoli Argyfwng ac Ymgyrch CC Integredig.
