> ein hymagwedd

Teimlwn yn angerddol ynglŷn ag agweddau creadigol ein gwaith ac rydym yn ymwybodol o'r sefyllfaoedd masnachol sy'n wynebu ein cleientiaid.

Byddwn yn gofyn llawer o gwestiynau er mwyn deall amcanion a nodau busnes ein cleientiaid.

Byddwn yn sbïo rownd corneli, yn eich helpu i feddwl yn amgen ac i archwilio'r potensial y tu hwnt i'ch anghenion uniongyrchol.

Byddwn yn defnyddio ein dychymyg, yn gwneud cysylltiadau ac yn gweithredu'n greadigol er mwyn cynnig atebion gwreiddiol a chost effeithiol.

Rydym yn ymwybodol o reolau, polisïau a materion perthnasol.

Rydym yn pennu cyrchnodau a chyllidebau realistig.

Mae gennym gynllun i'r gwaith a byddwn yn rhoi'r cynllun ar waith.

Os hoffech gyfarfod â ni, byddwch cystal â ffonio 01970 636400 neu e-bostiwch ni yma