Does dim rhaid i greadigrwydd olygu penderfyniadau ac amserlenni ysbeidiol. Mae ein tîm dylunio profiadol ac arobryn yn cymryd eich briff ac yn ei weithredu mewn ffordd greadigol a dychmygus, mewn pryd ac o fewn y gyllideb. O’r sesiynau syniadau cychwynnol, gwaith grwpiau trafod, a llunio penawdau cofiadwy gyda’n tîm cysylltiadau cyhoeddus mewnol, awn o’r cysyniad gwreiddiol ac ymlaen i’r cynnyrch terfynol gan sicrhau ansawdd ac ymdeimlad o steil a dychymyg, tra’n gweithio o fewn canllawiau’r brand.
Yma yn FBA, darparwn wasanaeth hynod effeithlon, dibynadwy ac o ansawdd uchel yn seiliedig ar drefnu ymgyrchoedd arobryn i’r cleient. Mae ein hymgynghorwyr yn cyflawni’r dasg mewn ffordd broffesiynol a chreadigol, gyda’u profiad helaeth o weithio’n agos â chleientiaid a’u partneriaid ar ymgyrchoedd a phrosiectau dwyieithog. Fel y dywedwn yn FBA – cynllunio’r gwaith, gweithio’r cynllun! Enillodd Cysylltiadau Cyhoeddus FBA nifer o wobrau dros y blynyddoedd, gan gynnwys gwobrau Rheoli Digwyddiadau, Cysylltiadau Cyhoeddus, Materion Cyhoeddus, Cysylltiadau Cymunedol a Budd-ddeiliaid a Marchnata.
Mae tîm digwyddiadau pwrpasol FBA yn ceisio gwneud mwy na ‘llenwi seddi’, ac anelwn at wneud yn fawr o apêl cysylltiadau cyhoeddus a materion cyhoeddus hirdymor unrhyw ddigwyddiad arbennig. O flwyddyn i flwyddyn mae ein tîm yn trefnu digwyddiadau wedi’u ffilmio o bwys fel Gwleidydd y Flwyddyn a gweithgarwch mwy personol ar ffurf ‘Chatham House’ ar gyfer llunwyr barn allweddol. Digwyddiadau ymylol, seremonïau gwobrwyo, digwyddiadau lansio, ciniawau o gwmpas y bwrdd, meddyliwch amdano a’r tebyg yw ein bod wedi’i drefnu mewn partneriaeth â’n cleientiaid.